Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 11 Chwefror 2022
Amser:
10.30 -
12.14
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12722
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS |
Tystion: |
Sir Paul Silk Yr Athro Emyr Lewis, Prifysgol Aberystwyth |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Charlotte Barbour (Cynghorwr Arbenigol) |
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (10.15-10.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1. Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Gomisiwn y Senedd am yr argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor ynghylch ei waith craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2022-2023 – 2 Chwefror 2022
2.2 PTN 2 - Ymateb gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ombwdsmon 2020-21; ac Amcangyfrif 2022-23 - 7 Chwefror 2022
2.3 PTN 3 - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - Datganiad Diwygiedig o Fwriad y Polisi - 4 Chwefror 2022
2.4 PTN 4 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth bellach a ddarparwyd gan y Gweinidog yn dilyn y sesiwn craffu ar y gyllideb ar 21 Ionawr 2022 - 8 Chwefror 2022
3 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu): Sesiwn dystiolaeth 5
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr Paul Silk; a'r Athro Emyr Lewis, Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth ar y Bil Deddfau Trethi etc. (Pŵer i Addasu).
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu): Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.